Sesiynau ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Maldwyn a’r Gororau : Awst 1-8
DYDD SADWRN 1 AWST
13.30pm
Y Babell Len
Llywarch Hen, Heledd a Baledi Hanes - dathlu stori mewn barddoniaeth
Gwyn Thomas yn sgwrsio am ddiweddaru’r Hen Englynion (Barddas) ac yn holi Myrddin ap Dafydd am ei ddwy gyfrol ddiweddar, Yn ôl i’r Dref Wen: Golwg ar Ganu Llywarch Hen a Chanu Heledd (Barddas) a Stori Cymru: Hanesion a Baledi (Gwasg Carreg Gwalch)
DYDD GWENER 7 AWST
12.45pm
Y Babell Len
Y Fro Eithinog: Casgliad o Gerddi T. Llew Jones
Darlith gan y Prifardd Idris Reynolds: ‘Y Fro Eithinog: Taith fer drwy fröydd cerddi T. Llew Jones, o Gwm Alltcafan i Foel Gilie, o Gwm-pen-llo i Bont-dwˆr-bach’