Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru

logo-cwlwm

Gwobr am Gyfraniad Oes
Mai 2014

alwynelisPan gyfarfu Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru ddechrau mis Mawrth ym mhencadlys Cyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth, roedd gan y Cwlwm un cyhoeddiad pwysig i’w wneud, sef cyhoeddi enw’r person oedd i dderbyn gwobr arbennig fel arwydd o werthfawrogiad am gyfraniad oes i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Prin iawn yw’r sawl sydd wedi derbyn y wobr hon yn y gorffennol, ond eleni roedd hi’n hollol amlwg fod yna un oedd yn gwbl haeddiannol ohoni. Ar drothwy ei ymddeoliad, hyfryd oedd cael cyhoeddi mai Alwyn Elis o Wasg Gwynedd (un o gyn-gadeiryddion Y Ffynnon, wrth gwrs) fyddai’n derbyn yr anrhydedd. Caiff ei anrhegu yng ngŵyl flynyddol y Fedwen Lyfrau, a gynhelir ar benwythnos Calan Mai yn Nant Gwrtheyrn. Mae’r Cwlwm Cyhoeddwyr wedi anrhydeddu rhai o enwau mawrion y byd cyhoeddi yng Nghymru yn y gorffennol, gan gynnwys yr awdures Bethan Gwanas, y dylunydd Elgan Davies, a’r llyfrwerthwraig a’r cyfaill mawr i lyfrau Arianwen Parri (sef mam Myrddin ap Dafydd, un arall sydd bellach yn byw yn Llÿn).

Yn yr un cyfarfod yn Aberystwyth, etholwyd y Parch. Aled Davies o Cyhoeddiadau’r Gair yn gadeirydd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Bydd yn hyfrydwch pur iddo, meddai, gael cyflwyno’r wobr arbennig hon i Alwyn am ei gyfraniad aruthrol i fyd cyhoeddi yng Nghymru am gyfnod o 42 mlynedd. Yn ogystal â rhannu diddordeb yn y byd cyhoeddi, mae’r ddau wedi cydweithio ers blynyddoedd bellach yng ngwaith Capel Uchaf, Chwilog, fel blaenor a gweinidog!

Dros y blynyddoedd daeth enw Gwasg Gwynedd yn gyfarwydd i ddarllenwyr llyfrau Cymraeg ledled Cymru. Sefydlwyd y wasg yn 1972 gan Alwyn Elis a Gerallt Lloyd Owen, a bu Alwyn yn gweithredu fel ei Chyfarwyddwr Rheoli o’r cychwyn cyntaf hyd heddiw. Roedd yn dechrau ar ei waith drannoeth iddo orffen fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth! Yn ôl Alwyn, John Roberts y Ffôr feddyliodd am yr enw Gwasg Gwynedd.

Dros y deugain mlynedd a mwy cyhoeddodd y wasg dros 400 o lyfrau amrywiol. Ymhlith y rhai a gyhoeddwyd ganddynt mae’r 40 o hunangofiannau yng Nghyfres y Cewri – un o’r cyfresi mwyaf llwyddiannus yn yr iaith Gymraeg, a werthodd gyfanswm o 110,000 o gopiau. Y llyfr cyntaf i’w gyhoeddi ganddynt oedd ‘Dewch i Adrodd’, Selwyn Griffith, ac un o’u llyfrau mwyaf poblogaidd fu ‘Bywyd Bob Owen’ gan Dyfed Evans, Pencaenewydd. Y gwerthwr gorau o’r cwbl i gyd oedd ‘Fi, Dai, sy ’ma’, hunangofiant Dai Jones, Llanilar. Daw’r llyfr olaf un, sef nofel gan Gareth F. Williams, yn wreiddiol o Borthmadog, o’r wasg ar ddydd olaf y mis hwn.

Dymunwn ymddeoliad hapus i Alwyn – ac i Nan, wrth gwrs, sydd wedi bod yn hynod weithgar fel golygydd y wasg dros y deuddeng mlynedd diwethaf.